Architect Bala North Wales | Rhys Llwyd Davies

Proffil

Mae swyddfa Rhys Llwyd Davies - Architect | Pensaer wedi ei leoli yn y Bala, Meirionydd, ac yn gweithio'n rheolaidd ar draws Gogledd Cymru.

Sefydlwyd y cwmni yn 2007 gyda'r uchelgais o wella yr amgylchedd adeiladol trwy ganolbwyntio ar gymeriad adeiladau, safle, a chynaladwyaeth (amgylcheddol a chymdeithasol).  Ers hynny, mae'r cwmni wedi datblygu iaith ac arddull bensaerniol sy'n gynhenid gyfoes yn ogystal a datblygu arbenigaeth mewn cadwraeth ac adeiladau hanesyddol.  Yn ganolig i hyn yw'r egwyddor y dylai pensaerniaeth adlewyrchu ei gyfnod ei hun - gyda lle yn ein cymdeithas ar gyfer y cyfoes ac hanesyddol. Trwy werthfawrogiad o adeiladau hynafol a dulliau adeiladu traddodiadol a cynhenid, gellir hysbysu pensaerniaeth gyfoes sydd wedi ei wreiddo i'w ardal, ond osgoi ail-defnydd llythrennol, ramantaidd a difeddwl o ffurfiau adeiladau a deunyddiau. 

Yn sefyll o flaen y swyddfa mae cofgolofn Thomas Ellis, gwladgarwr ac arloeswr gwleidyddol, a wnaeth osod yr her i ni yn ôl yn 1896 - i ddarparu;

''...adeiladau sydd yn addas ar gyfer eu defnydd, ac wedi eu dylunio gyda gofal fel eu bod yn bleser i'w gweld, a cherdded heibio''


Proffil

 
Heulfryn Bach

Heulfryn Bach

Casgliad o adeiladau allanol yw Heulfryn Bach ac mae…
Erw Foty

Erw Foty

Mae'r prosiect yma wedi trawsnewid byngalo oedd wedi gweld…
Deg:Deg

Deg:Deg

Yn mis Tachwedd 2017, dathlodd y cwmni 10 mlynedd…
Plas Isa

Plas Isa

Erbyn i'r gwaith ar yr adeilad yma gael ei…
darllenfa rydd dolgellau

darllenfa rydd dolgellau

Bu i'r Ddarllenfa Rydd Dolgellau gael ei adeiladu yn…
rosedale

rosedale

Mae Rosedale yn rhan o deras o dai trefol…

Deg:Deg

Deg:Deg